Gyrfa Cymru yn trefnu diwrnod gyrfaoedd unigryw ar gyfer Ysgol Crug Glas 

Yn ddiweddar, trefnodd Gyrfa Cymru ddiwrnod gyrfaoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) unigryw ar gyfer Ysgol Crug Glas mewn partneriaeth â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

Rhoddodd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 15 Mawrth 2024, gyfle i fyfyrwyr ddod i gysylltiad â chyfleoedd gyrfa mewn ffordd ystyrlon. 

Trefnodd Andrea John, cynghorydd ymgysylltu â busnes yn Gyrfa Cymru, sesiwn ryngweithiol yn cynnwys dau SCCH (Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu), Jade Morgan a Kyle Flowers, o Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. Roedd y sesiwn wedi’i theilwra i ddarparu ar gyfer gofynion synhwyraidd myfyrwyr ag anghenion a heriau cymhleth. 

Careers day for Ysgol Crug Glas

Eglurodd Andrea: “Ar ôl gweithio gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig o’r blaen a gweld â’m llygaid fy hun y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud gydag ysgolion, gofynnais a fydden nhw’n cefnogi gweithgaredd ar gyfer Ysgol Crug Glas. Roedd gweithio gyda’n gilydd i addasu’r gefnogaeth i gyd-fynd ag anghenion arbenigol y myfyrwyr yn rhan fawr o’r rheswm pam y bu’r digwyddiad hwn mor llwyddiannus. Yr ymdrechion cydweithredol hyn sydd wir yn gwneud gwahaniaeth, gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael y cymorth pwrpasol y mae ei angen arnynt i ffynnu.” 

Careers day for Ysgol Crug Glas

Yn ystod y sesiwn, cafodd disgyblion y cyfle i ymgysylltu â gweithgareddau synhwyraidd amrywiol, gan gynnwys gwrando ar synau rheilffordd go iawn trwy godau QR, profi goleuadau’n fflachio, a rhoi cynnig ar wisgoedd heddlu.  

Cynlluniwyd y gweithgareddau i roi dealltwriaeth ymarferol o’r rolau a’r cyfrifoldebau o fewn Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a’r diwydiant rheilffyrdd. 

Dywedodd Mark Saunders, Athro ADY yn Ysgol Crug Glas: “Rwyf am fynegi fy niolch i Andrea, Jade a Kyle am gynnal sesiwn eithriadol. Mwynhaodd y bobl ifanc a’r staff yn fawr. Roedd yr amgylchedd dysgu yn ddifyr ac yn ymlaciol, ac roedd pawb yn cymryd rhan yn frwd yn y gweithgareddau. Roedd lefel y gefnogaeth a’r amser a roddwyd i’r disgyblion yn anhygoel.” 

Yn y dyfodol, mae’r ysgol yn bwriadu ymweld â’r orsaf reilffordd i adeiladu ymhellach ar y gweithgaredd hwn a chyfoethogi profiadau dysgu’r myfyrwyr. Bydd yr ymweliad yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ryngweithio â gweithwyr y rheilffyrdd, gan ehangu eu dealltwriaeth o bosibiliadau gyrfa o fewn y sector trafnidiaeth. 

Careers day for Ysgol Crug Glas

Dywedodd Jade Morgan, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu: “Mwynheais i a Kyle gymryd rhan yn y digwyddiad hwn yn fawr ac rydym yn gyffrous i wahodd y disgyblion a’r staff i orsaf drenau Abertawe i gwrdd â’r holl staff anhygoel yno.” 

I gael gwybodaeth yn ymwneud â chymorth ac arweiniad gyrfaoedd, ewch i wefan Gyrfa Cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *