Lansio dipio dŵr oer yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, gyda sesiynau cyflwyno i sicrhau dipio diogel

Mae Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yng ngogledd Caerdydd yn ychwanegu dipio dŵr oer at eu rhaglen o weithgareddau dŵr yn sgil galw mawr. Mae dipio dŵr oer yn weithgaredd iachaol a hwyliog sy’n gallu hybu iechyd meddwl a chorfforol, ac mae’n rhywbeth y mae athletwyr proffesiynol a’r cyhoedd fel ei gilydd yn ei fwynhau.

Bydd y sesiynau newydd sbon, a fydd yn lansio yn atyniad ymwelwyr Dŵr Cymru Welsh Water y mis yma’n cynnwys cyflwyniad gorfodol dwy awr o hyd i sicrhau bod y cyfranogwyr yn dysgu sut i ddipio mor ddiogel â phosibl. Caiff y cwrs dwy awr yma, sydd wedi’i achredu gan yr Institute of Outdoor Learning, ei chyflwyno gan hyfforddwyr profiadol, wedyn bydd cyfle am ddip dŵr oer dan arweiniad yng Nghronfa Ddŵr Llanisien lle mae’r amodau’n berffaith, â dŵr glân a dim cerrynt na llanw.

Rhaid mynychu’r cwrs cyflwyno cyn y dip cyntaf, ac mae’n cwmpasu dipio dŵr oer yn ddiogel, arferion gorau, a chyngor ar offer addas. Bydd y cyfranogwyr yn dysgu am y sialensiau meddyliol a chorfforol sy’n gysylltiedig â dipio, ac yn darganfod manteision bendigedig ymdrochi mewn dŵr oer i iechyd a lles.

Ar ôl y cwrs cyflwyno a’r sesiwn dipio cyntaf, caiff y cyfranogwyr gyfle arbennig i ymuno â chymuned dipio dŵr oer Llys-faen a Llanisien, lle gallant gymryd rhan mewn sesiynau dipio rheolaidd, cyfleoedd cymdeithasol a digwyddiadau, gan ddarganfod ffordd newydd ac anturus o ymlacio, cadw’n heini a meithrin dygnwch trwy gydol y flwyddyn. Gall y rhai sy’n cymryd rhan ddipio mewn siwt wlyb neu mewn ‘croen nofio’ – sef enw’r gymuned dipio dŵr oer am wisg nofio arferol.

Dywedodd Jack Bailey, Rheolwr Gweithgareddau Dŵr Cymru yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien: “Rydyn ni wrth ein bodd i lansio dipio dŵr oer yn y cronfeydd yn sgil galw anferth gan y cyhoedd. Caiff y rhai sy’n cymryd rhan brofi grym ymdrochi trwy fyd iachaol a bywiocaol dipio dŵr oer, a hynny mewn lle hollol brydferth.

“Mae hi’n hanfodol bod y gweithgaredd yma’n cael ei gyflawni’n ddiogel, a dyna pam ein bod ni’n sicrhau bod pob un person sy’n dipio’n gwneud hynny mor ddiogel â phosibl hyd yn oed os ydyn nhw wedi rhoi cynnig ar ddipio dŵr oer o’r blaen. Rydyn ni wrth ein bodd i fod yn creu cymuned dipio dŵr oer newydd yn y cronfeydd, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pobl o bob oedran a phob cefndir i fwynhau holl fuddion y gweithgaredd yma.”

Agorwyd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien i’r cyhoedd yng Ngorffennaf 2023 fel hyb ar gyfer iechyd a lles a hafan i fywyd gwyllt. Ymhlith y gweithgareddau dŵr sydd ar gael eisoes mae hwylio, rhwyf-fyrddio, canwio a chaiacio, a nofio dŵr agored. Mae hyfforddwyr cymwys wrth law ar gyfer yr holl sesiynau, a chroeso i ymwelwyr logi offer neu ddefnyddio eu hoffer eu hunain. Cynigir sesiynau blasu ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau.

Cynhelir y cwrs cyflwyniad i ddipio dŵr oer yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ar:

  • Dydd Sadwrn 23 Mawrth: 9am-1pm a 1pm-4pm
  • Dydd Sadwrn 30 Mawrth: 9am-1pm a 1pm-4pm
  • Dydd Gwener 12 Ebrill: 9am-1pm a 1pm-4pm
  • Dydd Iau 25 Ebrill: 5.30pm 

Y gost yw £22 y person, sy’n cynnwys cyflwyniad cychwynnol dwyawr o hyd yn yr ystafell ddosbarth, cerdyn aelodaeth a thystysgrif y cwrs. Argymhellir yn gryf bod y rhai sydd am gymryd rhan yn gofyn am gyngor meddygol cyn y sesiwn gyntaf. I fwcio ewch i https://lisvane-llanishen.com/cold-water-dipping/

Ar ôl i’r cwrs cael ei gwblhau, bydd dipiau ar gael ar ddydd Sadwrn a dydd Sul 10.45am o fis Ebrill.

I gael gwybodaeth am weithgareddau dŵr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien, ewch i https://lisvane-llanishen.com/water-adventures/

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *