Mae Plaid Cymru yn Sir Gâr am gael sicrwydd gan gwmni Tata ynglyn â dyfodol gwaith Trostre yn Llanelli, sy’n prosesu dur o Bort Talbot i wneud caniau. Mae swyddogion y cyngor wedi bod mewn trafodaethau gyda rheolwyr lleol ers rhai misoedd yn barod – ac mae’r Cynghorydd Darren Price, Arweinydd y Cyngor, nawr wedi galw am eglurder gan benaethiaid Tata am ddyfodol tymor hir y gwaith.

Dywedodd y Cyng. Darren Price, Plaid Cymru, Arweinydd y Cyngor Sir: 

‘Yn sgil y newyddion am Bort Talbot, rwy’n pryderu’n fawr am ddyfodol Gwaith Trostre, sy’n cyflogi bron i 700 o bobl yn uniongyrchol, yn ogystal â channoedd o staff contractwyr. Mae Llanelli wedi colli miloedd o swyddi mewn diwydiannau trwm dros y blynyddoedd a byddai colli Trostre, a fu’n gyflogwr mawr ers 70 mlynedd, yn ddinistriol i’r dref a’r rhanbarth ehangach.

‘Fe wnaeth Tata fuddsoddi £6m yn Nhrostre yn 2022 ac mae’r holl deunydd pecynnu o ddur i gwsmeriaid mawr, fel y caniau ar gyfer Ffa Pôb Heinz, yn 100% ailgylchadwy. Ni fyddai’n gwneud synnwyr o gwbl petai gwaith sydd ag allyriadau carbon isel yn cau o ganlyniad i fwriad Tata i fod yn garbon sero-net erbyn 2045. pastedGraphic.png

Ategodd Rhodri Davies ymgeisydd Plaid Cymru Llanelli ar gyfer San Steffan “Rhaid i ni gael eglurdeb a sicrwydd gan Tata am ddyfodol Trostre ar frys i leddfu’r pryder difrifol ymhlith y gweithlu a’u teuluoedd.’

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *