Dwy gôl gyflym gan Lleucu Mathias enillodd Merched Tref Aberystwyth dri phwynt oddi cartref i Barry Town United.

Roedd tîm Gavin Allen wedi colli eu tair gêm flaenorol yn Uwch Gynghrair Genero Adran ar ôl dechrau gwych i’r tymor.

ABERYSTWYTH, CEREDIGION, WALES – 1st OCTOBER 2023 – Aberystwyth’s Lleucu Mathias scores their second during Aberystwyth Town Women vs Pontypridd United Women in Round 3 of the Genero Adran Premier at Park Avenue, Aberystwyth (Pic by Sam Eaden/FAW)

Ond roedd buddugoliaeth ysgubol o 8-0 oddi cartref i’r Rhyl yng Nghwpan Cymru Bute Energy y penwythnos diwethaf wedi eu rhoi yn ôl mewn ffyrdd buddugol cyn eu taith dydd Sul i Barc Jenner.

Y fuddugoliaeth oedd eu cyntaf oddi cartref yn y gynghrair ers mis Mawrth – pan guron nhw Barry Town United o’r un sgôr.

Yn anffodus, anafodd y chwaraewr canol cae Bethan ‘Cheeks’ Roberts ei garddwrn yn yr hanner cyntaf. Cafodd driniaeth ar y cae cyn mynd yn syth i’r ysbyty.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *