Mae Vibe Youth CIC wedi cael cydnabyddiaeth swyddogol heddiw (27 Medi 2023) am ansawdd y ddarpariaeth, wrth iddyn nhw gael y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid (MAGI) efydd.
Cyflwynwyd y wobr i’r tîm mewn digwyddiad arbennig yn swyddfeydd Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Mae’r MAGI aur (a weinyddir gan CGA) yn wobr genedlaethol sy’n dangos rhagoriaeth sefydliad. I gael achrediad, mae’n rhaid i sefydliadau gwaith ieuenctid hunanasesu yn erbyn set o safonau ansawdd, a phasio asesiad allanol.
I gael gwobr efydd MAGI, dangosodd Vibe Youth bod ganddynt arweinyddiaeth a llywodraethiant priodol, prosesau monitro a gwerthuso effeithiol, eu bod yn ddiogel, ac yn ymddwyn o fewn fframwaith o bolisïau cyfreithiol. Fe wnaethant hefyd ddangos eu bod yn amgylchedd diogel a chroesawgar i bobl ifanc sy’n gallu cael mynediad at staff a gwirfoddolwyr medrus, y maent yn gallu ymddiried ynddynt.
Dywedodd Jacob Henry, Prif Swyddog Gweithredu a chyd-sefydlydd Vibe, “Rydym yn falch i fod wedi cael y marc Ansawdd efydd.

Dewi Thomas (QMYW assessor), Ian Price, Jake Henry and Karen Henry (Vibe Youth), Hayden Llewellyn (EWC), Lewis Jones (Vibe Youth), Andy Borsden (EWC), Donna Robins (Welsh Government)
Credit: Education Workforce Council
“Mae’r wobr hon yn amlygu’r effaith a phwysigrwydd gwaith ieuenctid yng Nghymru. Fel sefydliad bychan, lleol, ry’n ni wedi dangos fod gennym y strwythurau cywir, a pholisïau cadarn yn eu lle, yn unol â fframweithiau lleol a chenedlaethol.
“Mae Vibe Youth wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc, waeth beth fo’u cefndir.”
Gan gyflwyno’r wobr i dîm Vibe Youth, dywedodd Prif Weithredwr CGA, Hayden Llewellyn, “Ry’n ni’n falch o allu croesawu tîm Vibe Youth i’n swyddfeydd heddiw, i gyflwyno’r wobr efydd iddynt.
“Mae’r Marc Ansawdd i gyd i wneud â dathlu gwaith gwych mae sefydliadau ieuenctid yn ei wneud bob dydd. Mae Vibe Youth yn wasanaeth gwych, gydag unigolion ymroddedig sy’n gwneud effaith fawr ar fywydau pobl ifanc, drwy rannu eu profiadau eu hunain.
“Llongyfarchiadau i bawb.”
Mae CGA yn recriwtio aseswyr MAGI ar hyn o bryd. Does dim angen unrhyw gymwysterau penodol i fod yn asesydd, ond mae’n helpu os ydych yn frwdfrydig am ddathlu gwaith ieuenctid yng Nghymru, a diddordeb mewn sicrhau ansawdd.
Mae mwy o wybodaeth am ddod yn aseswr, ac am y MAGI yn gyffredinol ar wefan CGA.
Dod yn asesydd y Marc Ansawdd (ewc.wales)

