PLAID CYMRU YN YMATEB I GAU YSGOLION DROS GONCRID RAAC

Mae Plaid Cymru wedi ymateb i’r cyhoeddiad na fydd dau ysgol yng Nghymru, Ysgol David Hughes na Ysgol Uwchradd Caergybi, Ynys Môn, yn ail-agor yfory (5 Sept) oherwydd pryderon yn sgîl newidiadau mewn canllawiau concrit RAAC.

 Dywedodd Llefarydd Plaid Cymru Dros Addysg, Heledd Fychan:

 “Rwy’n cefnogi’r camau pendant sydd wedi eu cymeryd gan Gyngor Ynys Môn i gau’r ddwy ysgol tra bod asesiadau pellach yn cael eu cynnal, gan fod iechyd a diogelwch dysgwyr a staff yn hollbwysig.

 “Fodd bynnag, gyda gwaith i wirio’r sefyllfa ledled Cymru yn parhau, mae’n destun pryder nad yw maint y broblem ledled y wlad yn hysbys ar hyn o bryd.

 “Drwy beidio â rhannu’r dystiolaeth ddiweddaraf tan yn hwyr neithiwr gyda Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU o bosibl wedi rhoi diogelwch plant, pobl ifanc a staff mewn ysgolion a cholegau mewn perygl. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu’n bendant yn awr i sicrhau bod y risg cael ei liniaru.

 “Mae amharodrwydd y Trysorlys i gyhoeddi arian newydd yn hynod o siomedig. O ystyried bod yr adeiladau hyn wedi’u hadeiladu cyn datganoli, mae gan Lywodraeth y DU ddyletswydd i ryddhau arian newydd i ysgolion yng Nghymru wneud atgyweiriadau.”

 Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn ac Arweinydd Plaid Cymru:

 “Mae’r sefyllfa’n un bryderus ac rydw i eisoes wedi trafod efo’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, ac rwy’n deall gan Gyngor Sir Ynys Môn eu bod nhw wedi bod yn monitro’r adeiladau sy’n cynnwys RAAC yn flynyddol fel sy’n ofynnol ohonyn nhw.

 “Rydw i’n ddiolchgar i Gyngor Sir Ynys Môn am ymateb mor brydlon ac effeithiol. Y flaenoriaeth rwan yw sicrhau bod yr asesiadau diogelwch angenrheidiol pellach sydd eu hangen yn digwydd mor fuan â phosibl, a byddaf yn sicrhau fy mod yn cael fy niweddaru’n gyson gan Gyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth Cymru. Bydd wedyn angen canfod pam a sut na chafodd gwybodaeth ei rannu ynghynt gan Lywodraeth y DU. Gall unrhyw rieni sydd am gael rhagor o wybodaeth gysylltu gyda fy swyddfa.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *