Mae’r chwaraewr canol cae Niamh Duggan yn ôl gyda Merched Tref Aberystwyth ar gyfer tymor 2023/24.

Mae’r ferch 18 oed yn dychwelyd i Goedlan y Parc ar ôl cyfnod gydag academi Reading FC yn Uwch Gynghrair y Merched.

Mae hi wedi cael y crys rhif 7 ar gyfer yr ymgyrch sydd i ddod.

“Rwy’n hapus iawn i fod yn ôl, ac yn methu aros i ddechrau arni,” meddai Duggan.

“Bydd yn wych cael chwaraewr talentog arall ar y cae i ni,” ychwanegodd y rheolwr Gavin Allen. “Fe fydd hi’n cryfhau’r garfan yn sylweddol, a dwi’n edrych ymlaen at weld yr effaith mae’n ei chael ar Uwch Gynghrair Genero’r Adran y tymor hwn.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *