Yr Her Fawr – Her 100 milltir y Felodrom.

Ymunwch â ni yn y Felodrom ym Mharc Caerfyrddin ddydd Gwener, 19 Mai 2023 o 9.30am ymlaen.

Yn rhan o’r paratoadau ar gyfer ‘Yr Her Fawr’, sy’n cael ei chynnal ar 5 Mehefin 2023, bydd aelodau o dîm Her Fawr Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn beicio 100 milltir o amgylch felodrom Caerfyrddin ac maen nhw am wahodd unigolion i ymuno â nhw yn yr her!

Gallwch ddod draw i’w cefnogi nhw neu i gwblhau faint a fynnoch o lapiau. I gymryd rhan, ni fydd angen mwy na beic defnyddiol a helmed arnoch.

Nod aelodau’r tîm yn y pen draw yw codi cymaint o arian â phosibl ar gyfer tair elusen sy’n agos at eu calonnau:

Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yno.

Gallwch gyfrannu arian at yr Her Fawr hefyd trwy ymweld â thudalen y tîm ar wefan People’s Fundraising: Codi Arian – LEJOG 2023 (peoplesfundraising.com)

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *