Bu paced o greision yn gostus i un gweithiwr ffordd ym Mhorth Tywyn ar ôl iddo gael gorchymyn i dalu bron £200.

Roedd Jack Howells yn gosod tarmac ar ffordd pan oedd preswylydd wedi’i ddal ar gamera yn taflu’r paced gwag ar y llawr.

Cafodd y gŵr 24 oed o Heol Tyn y Bryn, yn Nhonyrefail, ddirwy o £100 gan ynadon Llanelli a chafodd orchymyn i dalu costau o £85 mewn erlyniad dan arweiniad Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Clywodd y llys fod preswylydd, ddydd Llun, 8 Tachwedd y llynedd, wedi clywed synau y tu allan i’w heiddo a gweld gweithiwr ffordd yn taflu croen banana ar y llawr. Yna penderfynodd y preswylydd droi camera ei ffôn ymlaen i wneud fideo a dal Howells a oedd yn gosod tarmac yn gwagio gweddill y paced o greision i’w geg cyn ei daflu ar y llawr.

Yna trosglwyddwyd y dystiolaeth i dîm gorfodi Cyngor Sir Caerfyrddin a gysylltodd â Gwendraeth Valley Tarmac a oedd yn gallu adnabod Howells.

Cysylltodd y cyngor â Howells a chytunodd i dalu Hysbysiad Cosb Benodedig o fewn 14 diwrnod er mwyn osgoi mynd i’r llys.

Er gwaethaf iddo gytuno ar lafar a chael nodiadau atgoffa, methodd Howells â thalu a chafodd ei erlyn yn y llys ddydd Gwener diwethaf a chyfaddefodd i’r drosedd.

Cafodd orchymyn hefyd i dalu gordal dioddefwr o £34.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *