Brawd a chwaer yn codi dros £17,000
ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi

Cododd Dion a Cara Evans swm aruthrol o £17,609 i Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili er cof am eu mam.

Trefnodd y brawd a chwaer daith feicio 75 milltir o hyd fis Medi diwethaf ac yna diwrnod o gerdded o Aberystwyth i Aberaeron.

Cynhalion nhw’r her ar 10 mlynedd ers marwolaeth eu mam.


Dywedodd Dion: “Ni allwn ddiolch digon i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad elusennol hwn. Rydyn ni mor ddiolchgar. 10 mlynedd yn ôl, fe gollon ni ein mam wych, a fydd yn ein calonnau am byth. Fe wnaethon ni hyn er cof amdani.”

Dywedodd Jessica Halpin, Prif Nyrs ar Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili, “Hoffem ddiolch i Dion a Cara, eu teulu a’u ffrindiau yn ogystal â’r gymuned gyfan sydd wedi cefnogi eu gwaith codi arian mor hael.

“Mae tîm Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili yn cynllunio nifer o brosiectau a ariennir gan elusen yn 2022 a bydd y rhodd hael a dderbynnir yn cyfrannu’n sylweddol at gynlluniau’r tîm ar gyfer gwella’r profiad i gleifion.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *