Welsh Government News

Wrth i fusnesau twristiaeth ar draws Gogledd Cymru baratoi ar gyfer gwyliau’r Pasg, aeth Gweinidog Gogledd Cymru, Lesley Griffiths, ar ymweliad ag Adventure Parc Snowdonia i glywed am eu paratoadau.

Mae’r datblygiadau diweddaraf yn y Parc yn cynnwys Gwesty a Sba Hilton, sydd bellach bron yn flwydd oed, a’r ganolfan antur dan do sy’n cynnig profiad cyffrous ym mhob tywydd.  Mae’r ddau ddatblygiad wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Ronald George (Hotel General Manager) and Minister for North Wales Lesley Griffith

Gyda dechrau’r tymor syrffio newydd a disgwyl ymwelwyr dros wyliau’r Pasg a’r haf, mae Adventure Parc Snowdonia yn edrych ymlaen at flwyddyn brysur.

Dywedodd y Gweinidog: “Mae wedi bod yn ddwy flynedd heriol iawn i’r diwydiant twristiaeth.  Ddwy flynedd yn ôl roedd gwyliau’r Pasg yn wahanol iawn, ond erbyn hyn mae busnesau ledled y wlad yn barod i groesawu ymwelwyr.

“Mae Croeso Cymru wedi bod yn cynnal ymgyrchoedd yn ystod y gaeaf i gadw Cymru ym meddyliau darpar ymwelwyr, wrth i bobl ddechrau meddwl am archebu gwyliau unwaith eto.

Dylan Evans (Group and Events Manager) and Minister for North Wales Lesley Griffith

“Mae’n wych gweld y datblygiadau yma yn Adventure Parc Snowdonia, sy’n rhan allweddol o wella enw da Gogledd Cymru fel cyrchfan twristiaeth antur o’r radd flaenaf.  Gyda llety a gweithgareddau o ansawdd uchel sy’n addas i bawb, mae’r atyniad wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r arlwy twristiaeth yma.

“Mae hefyd yn darparu sgiliau a chyfleoedd hyfforddi rhagorol i’r ardal leol.  Mae cael y cyfle i hyfforddi a gweithio mewn datblygiad o’r fath yn y Gymru wledig yn brofiad aruthrol.

          “Rwy’n dymuno tymor llwyddiannus iawn i Adventure Parc Snowdonia.”

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *