MAE busnesau bach yn Sir Gaerfyrddin wledig yn cael cynnig cymorth i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.
Mae menter Iaith Gwaith Cyngor Sir Caerfyrddin, a ariennir gan Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, yn darparu grantiau i helpu busnesau i godi proffil y Gymraeg yn eu deunyddiau marchnata, brandio ac arwyddion.
Gall busnesau bach a sefydliadau cymunedol sydd wedi’u lleoli mewn rhannau gwledig o’r sir, neu sy’n symud i’r ardaloedd hynny, wneud cais am y grant a fydd yn talu hyd at hanner y costau cymwys hyd at uchafswm o £3,000.
Mae angen cyflwyno ceisiadau erbyn diwedd mis Mai 2022, ond mae’r cyllid ar gael ar sail y cyntaf i’r felin a chynghorir ceisiadau cynnar.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i www.sirgar.llyw.cymru/busnes, neu e-bostiwch RDPSIRGAR@sirgar.gov.uk

