Diolch i’ch rhoddion gan gymunedau lleol rydym yn falch ein bod wedi gallu prynu detholiad o lyfrau plant y gellir eu sychu, teganau addysgol, matiau chwarae, addurniadau ar gyfer y crud, seddi babanod ac eitemau bwydo ar gyfer yr Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Glangwili.

Bydd y teganau yn helpu gydag asesu babanod mewn clinigau ac yn darparu enghreifftiau o eitemau chwarae addysgol sydd ar gael i rienigan gynnwys peli meddal synhwyraidd, teganau, ratlau a teganau ar gyfer y dannedd.

Bydd y llyfrau bwrdd y gellir eu sychu yn cefnogi bondio rhiant-babi a datblygiad y babi.

Bydd y matiau, sydd ar gael i fabanod yn yr uned am gyfnodau hir, yn caniatáu chwarae a rhyngweithio.

Darparwyd seddi hefyd ar gyfer babanod cyn-dymor a chymhorthion llawr, ynghyd â photeli, bowlenni, cwpanau a llwyau a ddefnyddir ar gyfer sesiynau cyngor bwydo babanod a diddyfnu.

Dywedodd Angharad Smiriglia, Ffisiotherapydd Newyddenedigol: “Rydym yn ddiolchgar iawn am yr eitemau hyn sy’n ein helpu i gefnogi teuluoedd yn ein tair sir i ofalu am eu babanod ar ôl cael eu derbyn i’r uned newyddenedigol, hyd at eu rhyddhau i’r cartref.

Mae’r llyfrau, y teganau addysgol a’r eitemau bwydo yn cefnogi rhieni i ddysgu mwy am yr hyn y gallant ei wneud i ddarparu’r cychwyn gorau i’w babanod ac ar gyfer datblygiad eu babanod.”

Dywedodd Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, Nicola Llewelyn: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau yn ychwanegol at yr hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn. ”

Os hoffech chi helpu eich elusen GIG i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, llesiant a phrofiad cleifion y GIG, defnyddwyr gwasanaeth a staff ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn www.hywelddahealthcharities.org.uk

Yn y llun gyda rhai o’r llyfrau a’r gemau newydd mae Angharad Smiriglia a Steph Griffiths, Deietegydd Newyddenedigol.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *