Mae cynghorydd Gyrfa Cymru o Gaerdydd wedi ennill gwobr genedlaethol fawreddog am ei gwaith o wneud cymorth gyrfaoedd yn fwy hygyrch i unigolion niwroamrywiol.
Mae Bethan Williams, syan gweithio o fewn gwasanaeth Cymru’n Gweithio, wedi cael ei henwi’n enillydd yn y categori “Gweithiwr proffesiynol datblygu gyrfa sy’n gweithio mewn lleoliadau heblaw addysg” yng Ngwobrau Sefydliad Datblygu Gyrfa 2025.
Mae Bethan wedi cael ei chydnabod am ei gwaith i wella cefnogaeth i gwsmeriaid niwrowahanol. Dyluniodd becyn cymorth rhagarweiniol sy’n cynnwys gwybodaeth ysgrifenedig a gweledol i helpu cwsmeriaid i deimlo’n fwy cyfforddus wrth ymweld â’r ganolfan gyrfa am y tro cyntaf.
Mae’r pecyn yn cynnwys “Wal Groeso” gyda lluniau o staff, ynghyd â’u henwau a teitlau eu swyddi, fel y gall ymwelwyr ymgyfarwyddo â’r tîm cyn eu hapwyntiad. Mae cwsmeriaid hefyd yn gweld pwy fydd eu cynghorydd ar y diwrnod, gan helpu i leihau pryder a chreu amgylchedd croesawgar.
Yn ogystal, mae Bethan wedi chwarae rhan flaenllaw yn trefnu ffair swyddi gynhwysol hynod lwyddiannus, a gynhaliwyd yng nghanolfan gyrfa Caerdydd ym mis Ionawr, gan groesawu mwy na 240 o fynychwyr.
Dywedodd Bethan: “Rwyf wrth fy modd fy mod i wedi ennill y wobr hon. Mae gwybod bod y gwaith rydw i wedi’i wneud yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn golygu llawer i mi.
“I lawer o gwsmeriaid niwroamrywiol, gall ymweld â chanolfan gyrfa fod yn deimlad llethol, felly roeddwn i eisiau creu rhywbeth a fyddai’n gwneud y profiad hwnnw’n fwy croesawgar ac yn llai o straen.
“Gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i gael mynediad at y cymorth sydd ar gael iddyn nhw.
“Rydym nawr yn edrych ymlaen at drefnu a chynnal y ffair swyddi gynhwysol nesaf.”
Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym wrth ein bodd bod gwaith rhagorol Bethan wedi cael ei gydnabod ar lwyfan cenedlaethol.
“Mae sicrhau bod ein gwasanaethau’n hygyrch ac yn gefnogol i unigolion niwroamrywiol yn hanfodol ar gyfer adeiladu system wirioneddol ddiduedd a chynhwysol.
“Rydym am wneud yn siŵr y gall pob un o’n cwsmeriaid wneud dewisiadau gyrfa gwybodus gyda chymorth wedi’i deilwra sy’n cydnabod eu cryfderau a’u hanghenion unigol.
“Rydym yn hynod falch o Bethan ac wrth ein bodd yn ei gweld yn cael ei chydnabod ar lefel genedlaethol.”
Cynhaliwyd seremoni wobrwyo’r Sefydliad Datblygu Gyrfaoedd 2025 ddydd Mawrth 17 Mehefin yng Ngwesty’r Royal National yn Llundain, gan ddathlu rhagoriaeth yn y proffesiwn datblygu gyrfaoedd ledled y DU.
