Mae Tracey yn gweithio yn Nhîm Comisiynu Cyngor Sir Caerfyrddin fel Swyddog Monitro Ansawdd ar gyfer cartrefi gofal pobl hŷn. Bu’n gweithio ochr yn ochr â Joanne yn ddyddiol am dros 16 mlynedd.
Dywedodd Tracey: “Roeddwn i eisiau anrhydeddu addewid a wneuthum i Jo y byddwn yn gwneud taith gerdded 5k. Ymunodd grŵp o ffrindiau gwaith a gydol oes Jo ac aelodau o’r teulu â mi, a dyma ni’n ei alw’n ‘Jo’s 5k Talk and Walk’.
“Oherwydd ein bod yn aml yn sgwrsio a cherdded gyda’n gilydd, roedd yn gyfle i ni gyd fod gyda’n gilydd yn rhannu straeon tra’n codi arian at achosion mor deilwng.
“Cynhaliwyd y ‘Walk and Talk’ ar 8 Medi 2024 ym Mharc Dŵr y Sandy yn Llanelli. Roeddem yn gallu ymuno yng nghefn y Parkrun a 5k Walk Your Way. Cefnogodd rhedwyr, cerddwyr a gwirfoddolwyr ni drwy gydol y daith.
“Roeddwn i eisiau codi arian ar gyfer yr Uned Ddydd Cemotherapi yn Ysbyty Tywysog Philip a Chanolfan Ganser Felindre er cof am fy ffrind gorau, Jo, gan ei bod yn defnyddio’r ddwy uned. Bydd colled ar ei hôl am byth gennym ni i gyd.
“Roedd yn ddiwrnod perffaith yn cerdded gyda theulu a ffrindiau agos Jo. Roedden ni eisiau codi £500 i bob uned a llwyddo i godi dros £600 i’r ddwy.”
Dywedodd Nicola Llewellyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn arbennig iawn i Tracey a phawb a fu’n ymwneud â Jo’s 5k Walk and Talk am gefnogi achos mor deilwng er cof am Jo.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk

