Newid prisiau gwasanaeth T1 TrawsCymru

Transport For Wales News

Ar ôl 12 mis llwyddiannus i wasanaeth bws trydan T1 TrawsCymru rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) wedi cyhoeddi strwythur prisiau newydd ar gyfer llwybr T1.

O ddydd Sul 31 Mawrth ymlaen, bydd prisiau teithiau un tocyn ar y T1 sy’n bellach na 3km (1.8 milltir) yn codi £0.25, i gyd-fynd â’r strwythur prisiau safonol sydd ar waith ar wasanaethau T2, T3 a T10.

Bydd y cynnydd hwn ond yn berthnasol i docynnau sy’n cael eu prynu ar y bws. Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu’r tocynnau gwerth gorau drwy lawrlwytho ap TrawsCymu.

Bydd teithiau un tocyn i deithio 3km (1.8 milltir) neu lai sy’n cael eu prynu ar y bws yn dal yn ddim ond £1.25.

Bydd prisiau ein tocynnau drwy’r dydd, wythnosol a phedair wythnos yn aros yr un fath ac yn parhau i roi’r gwerth gorau am arian i ddefnyddwyr rheolaidd gwasanaeth T1.

Bydd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau trên TrC o Gaerdydd i orllewin Cymru hefyd yn gallu arbed amser ac arian ar gyfer teithiau i gyfeiriad Aberystwyth drwy brynu ein tocyn cyfun trên a TrawsCymru T1.

Mae rhagor o wybodaeth am brisiau ar gael ar wefan TrawsCymru.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *