Oherwydd achosion cynyddol o Covid-19 yn yr ysbytai a’r gymuned, gwnaed y penderfyniad i atal dros dro ymweld â phob ysbyty ar unwaith.

Dim ond mewn trefniadau esgusodol, fel diwedd oes ac ymweliadau critigol, y caniateir ymweld.

Nid yw’r cyfyngiadau sy’n cael eu cyflwyno heddiw yn effeithio ar y trefniadau ymweld cyfredol yn ein gwasanaethau mamolaeth.

Rhaid i bob ymwelydd gynnal prawf dyfais llif unffordd (LFD) gartref cyn teithio i’r ysbyty.

Gellir cael citiau hunan-brofi LFD trwy:

Wrth ymweld â’n hysbytai cofiwch wisgo gorchudd wyneb, bydd mwgwd wyneb llawfeddygol yn ei le yn y dderbynfa neu fynedfa’r ward. Cofiwch gynnal pellter cymdeithasol ac i lanhau’ch dwylo wrth fynd i mewn i’r adeilad ac mor aml â phosibl gan ddefnyddio sebon a dŵr neu lanweithydd dwylo.

Rydym yn gwerthfawrogi ei bod yn gyfnod anodd i bawb, a byddwn yn parhau i gefnogi lles ein cleifion/defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd a’u hanwyliaid yn y ffordd orau a gallwn, gan gadw pawb mor ddiogel â phosibl.

Gall ein tîm cymorth i gleifion a swyddogion cyswllt teulu helpu i ddosbarthu eitemau hanfodol i gleifion o’u teulu a hwyluso cyfathrebu trwy opsiynau digidol/ffon; os oes angen eu cymorth arnoch, ffoniwch nhw ar 0300 0200 159 a byddant yn gwneud eu gorau i’ch helpu chi.

Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n rheolaidd a bydd diweddariad pellach yn cael ei wneud i gyfyngiadau ymwelwyr cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny.

Diolch i bawb am gefnogi ein cyfyngiadau ymwelwyr i amddiffyn ein cleifion a’n GIG.

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *