Taith ddysgu’r enillydd gwobr Fred wedi ei hysbrydoli gan ei blant a’i ddiweddar wraigFred Murad – taith ddysgu wedi ei hysbrydoli gan ei blant a’i ddiweddar wraig.

Cychwynnodd y tad ymroddedig Fred Murad daith i ysbrydoli a wnaeth newid ei fywyd pan fu farw ei wraig, Claire, yn drychinebus o sepsis yn 2021.

Gyda dau blentyn ifanc i ofalu amdanynt, ei flaenoriaeth oedd sicrhau bod ganddo’r sgiliau i’w cefnogi gyda’u haddysg a symud tuag at ddyfodol mwy disglair.

Ers ymuno â chwrs dysgu oedolion Sbardun yn ysgol ei blant yn Sir Benfro, mae wedi croesawu pob cyfle i ddysgu a chwblhau 25 o gyrsiau dros y pum mlynedd diwethaf, gan gynnwys dysgu teuluol, rhifedd, llythrennedd, sgiliau digidol a weldio.

Wedi ei ysbrydoli gan y cof am ei wraig a’i blant, mae Fred yn awr yn cychwyn ei flwyddyn olaf ar Radd Sylfaen mewn Addysg Gynhwysol gyda Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ac mae’n bwriadu dilyn blwyddyn ychwanegol i gael Gradd Baglor.

Ar yr un pryd mae’n gweithio tuag at Ddyfarniad Lefel 3 mewn Addysg, Addysgu a Dysgu yng Ngholeg Sir Benfro ac mae wedi newid ei yrfa o reoli cogyddion i weithio fel tiwtor weldio yn y coleg.  Mae ei daith yn dysgu wedi trawsnewid ei yrfa, gan ei arwain o reoli cogyddion yn y sector lletygarwch i addysgu weldio yng Ngholeg Sir Benfro.

Ei uchelgais yw dod yn ddarlithydd i ysbrydoli dysgwyr eraill i lwyddo.

I gydnabod ei daith yn dysgu, mae Fred wedi ennill y Wobr Newid Bywyd yng Ngwobrau Dysgu Oedolion Ysbrydoli! eleni fydd yn cael eu cyflwyno yn y Gyfnewidfa Lo, Caerdydd ar 23 Medi. Mae’n un o blith 11 o enillwyr gwobrau.

Yn uchafbwynt Wythnos Addysg Oedolion yng Nghymru – https://adultlearnersweek.wales/?lang=cy

sy’n rhedeg o 21 hyd 27 Medi, mae’r gwobrau yn cydnabod y rhai sydd wedi dangos ymrwymiad i beidio stopio dysgu. Maent yn cael eu trefnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Mae pob enillydd Gwobr Ysbrydoli! yn dangos sut y gall dysgu gynnig ail gyfleoedd, helpu i greu cyfleoedd gyrfa newydd, cynyddu hyder a helpu cymunedau i ddod yn fwy bywiog a llwyddiannus.   

Ar gyfer oedolion yng Nghymru sy’n awyddus i gychwyn ar eu taith ddysgu, bydd cyrsiau blasu yn y cnawd a sesiynau ar-lein yn cael eu rhedeg trwy fis Medi ac yn ystod Wythnos Addysg Oedolion. Bydd cyngor a gwybodaeth ar gael yn lleol i ysbrydoli pobl i droi at ddysgu fel ffordd o gynyddu eu cyflogadwyedd, cynyddu sgiliau bywyd a gwella ansawdd eu bywydau.

Wrth ymateb i’w Wobr Newid Bywyd, dywedodd Fred, 44, sy’n byw yn Herbandston, ger Aberdaugleddau gyda’i blant, Freddy naw a Sophie, pump: “Roedd yn anrhydedd cael fy enwebu ond mae ennill tu hwnt i’m dychymyg. Rwyf yn ddiolchgar ac wedi fy mendithio, ac rwy’n meddwl beth fyddai Claire yn ei feddwl ohonof?

“Petawn i wedi marw yn hytrach na Claire, fyddwn i ddim am iddi hi roi’r gorau i bethau, felly ni allaf ei gadael hi i lawr. Agorodd Sbardun a Dysgu Sir Benfro y drws i mi ddysgu gan ddarparu gofal plant yr oedd arnaf ei fawr angen fel unig riant heb gefnogaeth teulu.”

Gan annog oedolion eraill i ddychwelyd at ddysgu, meddai Fred: “Os cewch chi’r cyfle, ewch amdani. Gall y cam cyntaf hwnnw i’ch arwain yn ôl at ddysgu fod y cyfle sydd arnoch ei angen i agor drysau i’ch cludo i’r lefel nesaf.

“Gyda’r amgylchedd gwaith cyflym, sy’n newid yn barhaus, mae dysgu wedi sicrhau fy mod yn cadw’n gyfredol ac nad wyf yn cael fy ngadael ar ôl.”

Dywedodd enwebydd Fred, Laura Phillips o Sbardun yng Nghyngor Sir Penfro: “Fel tiwtor, mae gan Fred yr un meddylfryd â’r un y gwnaeth ei fabwysiadu er budd ei blant. Mae’n dweud nad yw’n mynd i roi’r gorau i weithio gydag unrhyw un a’i fod am ysbrydoli pob dysgwr i gredu ynddo ei hun a’i allu i gyflawni.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog Llywodraeth Cymru dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol, Cefin Campbell AS: “Mae dysgu oedolion yn chwarae rhan allweddol wrth greu Cymru gryfach, decach a mwy ffyniannus. Mae’n helpu pobl i ddatblygu’r sgiliau y mae arnynt eu hangen i weld cynnydd yn eu gwaith, cymryd rhan lawn yn eu cymunedau ac ymateb i’r cyfleoedd a’r heriau sydd ymhlyg mewn economi sy’n newid.

“Mae llwyddiant Fred yn amlygu gwerth buddsoddi mewn pobl a sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gael trwy gydol oes. Mae ei stori yn dangos yr effaith gadarnhaol y gall dysgu oedolion ei gael, nid yn unig i’r unigolion, ond i deuluoedd, gweithleoedd a chymunedau ar draws Cymru.”

Ychwanegodd Michelle Matheron, Cyfarwyddwr y Sefydliad Dysgu a Gwaith yng Nghymru: “Mae dysgu gydol oes yn cynnig cyfleoedd i ni i gyd, boed hynny’n symud i yrfa newydd, dysgu sgil newydd, cefnogi ein hiechyd a’n llesiant neu ddim ond gwneud rhywbeth yr ydym yn ei fwynhau. Gall yr effaith fod yn drawsnewidiol, a gallwn weld hynny trwy hanesion enillwyr ein gwobrau.

“Mae eu hymrwymiad i ddysgu wedi gwneud gwahaniaeth anferth yn eu bywydau ond hefyd i’r rhai o’u cwmpas. Mae dysgu oedolion yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac mae’n hanfodol cefnogi a dathlu’r oedolion yng Nghymru sy’n mynd ati i ddysgu, gan oresgyn heriau personol sylweddol i wneud hynny hefyd weithiau. Mewn byd sy’n newid yn gyflym mae’r neges o “beidio byth stopio dysgu” yn bwysicach nag erioed.”

Gall unrhyw un sydd wedi ei ysbrydoli gan stori Fred gael cyngor a chefnogaeth am ddim trwy Gymru’n Gweithio i archwilio cyfleoedd dysgu a hyfforddi yn eu hardal leol.

Er mwyn cael gwybod beth sy’n digwydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion, ac i gael cyfarwyddyd personol am eich dewisiadau dysgu a’r gefnogaeth sydd ar gael, cysylltwch â Cymru’n Gweithio ar 0800 28 4844 neu chwiliwch am https://cymrungweithio.llyw.cymru

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *